Ydych chi rhwng 16 a 30 oed ac mae gennych eich busnes eich hun? Neu efallai eich bod yn meddwl am roi cynnig ar fod yn fasnachwr?
Yna mae gennym y cyfle perffaith i chi!
Mae Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Marchnad (NMTF) yn cynnal cystadleuaeth flynyddol i ddod o hyd i’r Masnachwr Marchnad Ifanc gorau.
Bydd Abertawe yn cynnal Rownd Derfynol Ranbarthol De Cymru ar 27 Gorffennaf a hoffem eich gweld chi yno.
Gellir cymryd rhan am ddim, a’r llynedd aeth 10 masnachwr ifanc o Rownd Derfynol Ranbarthol De Cymru ymlaen i gystadlu yn y Rownd Derfynol Fawreddog gyda chryn lwyddiant. Enillodd Anthony Johnson wobr y Rownd Derfynol Fawreddog yn y Categori Bwyd a Nwyddau Cartref a dyfarnwyd gwobr Canmoliaeth Uchel i’w gyd-derfynydd rhanbarthol, Alana Jones, yn y categori Celf a Chrefft.
Felly os ydych chi rhwng 16 a 30 oed ac:
- Mae gennych fusnes neu syniad am fusnes yr hoffech chi i ni ei brofi, neu
- Rydych eisoes yn fasnachwr sefydledig ond yn awyddus i’ch busnes gael mwy o sylw, neu
- Mae gennych fusnes sy’n bodoli ond nid ydych wedi rhoi cynnig ar fanwerthu eto,
Dyma’r hyn y maen angen i chi ei wneud!
Cam 1:
Cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi’r ffurflen gais ar-lein syml hon
Cam 2:
Cymerwch ran yn rownd leol Marchnad Abertawe ddydd Sadwrn 20 Mai a phrofwch eich sgiliau! Gwnewch argraff ar y beirniaid a byddwch yn sicr o gyrraedd y Rownd Derfynol Ranbarthol ar 22 Gorffennaf.
Cam 3
Ymunwch â Marchnad y Masnachwyr Ifanc yng nghanol dinas Abertawe ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf i arddangos eich cynnyrch, eich dulliau marchnata a’ch sgiliau gwerthu! Bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i’r Rownd Derfynol Fawreddog yn Stratford-upon-Avon ar 25 a 26 Awst.
Gellir cymryd rhan ym mhob cam o’r gystadleuaeth am ddim, a darperir stondin a phŵer i chi.
Yn y Rownd Derfynol Fawreddog, bydd ansawdd y cynnyrch, y dull marchnata, gwybodaeth am y cynnyrch, cyflwyniad, sgiliau gwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid hyd at 90 o fasnachwyr ifanc yn cael eu profi er mwyn dod o hyd i enillydd y gystadleuaeth Masnachwr Ifanc Cenedlaethol. Bydd enillydd hefyd o bob un o bedwar categori’r gystadleuaeth – Celf a Chrefft, Bwyd a Nwyddau Cartref, Bwyd a Diod a Manwerthu Cyffredinol.
Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn tyfu am rai blynyddoedd ac yn 2019, roedd y rownd derfynol genedlaethol wedi denu cynulleidfa o filiynau, gan ymddangos ar raglen oriau brig ‘The One Show’ y BBC.
Mae enillydd y Categori Bwyd a Nwyddau Cartref yn 2019, Caribe Coffee & Co, hefyd wedi cael y cyfle’n ddiweddar i gyflwyno’u cynnyrch ar raglen Dragons’ Den BBC 1.
Roedd yr adborth gan fasnachwyr ifanc a gymerodd ran yn y gystadleuaeth yn wych, dysgwyd llawer ganddynt ac enillwyd profiadau gwerthfawr ar hyd y ffordd i helpu i addasu a gwella’u sgiliau busnes a’u cynnyrch.
Mae’r NMTF hefyd wedi darparu arweiniad hynod ddefnyddiol a chynhwysfawr ar sefydlu’ch hun fel masnachwr marchnad a datblygu’ch busnes. Gellir cael gafael arno AM DDIM!
Gwnewch gais heddiw a pheidiwch â cholli’r cyfle cyffrous hwn!
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Rheolaeth Canol y Ddinas CityCentreManagement@abertawe.gov.uk / 01792 633090
Gwybodaeth NMTF: https://www.nmtf.co.uk/campaigns/ytm23/