Mae Marchnad Abertawe’n cynnal rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn sy’n aml yn cynnwys adloniant byw, gweithgareddau difyr a mwy!
Amser chwarae yng Ngardd y Farchnad – Bydd teganau a gemau i blant bach yng Ngardd y Farchnad bob dydd fel y gallant chwarae wrth i chi ymlacio a mwynhau paned neu rywbeth i’w fwyta.
Marchnadoedd Bach Feganaidd – Bydd Marchnadoedd Bach Feganaidd yn ymddangos yn y farchnad yn rheolaidd, gan droi Gardd y Farchnad yn hafan o fwydydd blasus o bedwar ban byd, y cyfan yn 100% feganaidd.