
Marchnad Abertawe yw’r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru. Mae’n farchnad arobryn, hanesyddol sy’n cynnig profiad siopa unigryw i dwristiaid a phreswylwyr.
O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gallwch ddod o hyd i amrywiaeth wych o stondinau arbenigol sy’n cynnig popeth, o gynnyrch ffres, bwydydd blasus, henebion ac anrhegion pwrpasol.
Mae Gardd y Farchnad yn ganolog iddi, ac mae mwy o ffyrdd nag erioed i chi ddod i fwynhau’r hyn sydd gan y Farchnad i’w chynnig! Gallwch gwrdd â ffrindiau i gael cinio o dan y deildy 7.5m o uchder, mwynhau coffi a gwefru’r gliniadur neu roi cynnig ar rywbeth blasus o un o’n stondinau a mwynhau’r awyrgylch. Gallwch hyd yn oed ddod â’ch ci gyda chi!
Cadwch eich llygaid ar agor am ddigwyddiadau sydd ar ddod, gan gynnwys cerddoriaeth fyw, arddangosiadau ac adloniant i’r holl deulu.
Pam oedi? Dewch i weld beth gallwch chi ei ddarganfod ym Marchnad Abertawe!