Dyma fusnes teuluol a sefydlwyd ym Marchnad Abertawe yn ystod y 1940au; roedd y stondin hon yn gwerthu cynnyrch cartref yn wreiddiol ac ers hynny, mae wedi ehangu i gynnwys dwy stondin yn y Mwmbwls a siop ar-lein sy’n cynnig dosbarthu nwyddau am ddim yn ardal Abertawe.
Mae The Choice is Yours yn ymfalchïo yn ei gynnyrch ffres lleol o safon uchel, a ddosberthir bob dydd ac yn lleol, ond hefyd yn ei wasanaeth cwsmeriaid gan staff cyfeillgar a gwybodus.
Mae’r stondin yn cyflenwi cynnyrch i nifer o westai, bwytai a swyddfeydd ac mae’n cymryd rhan yn y rhaglen ‘Ysgolion Iach’ trwy anfon ffrwythau ffres i nifer o ysgolion ar draws ardal Abertawe er mwyn eu defnyddio mewn cynlluniau siop ffrwythau.
Maent hefyd yn cynnig basgedi ffrwythau ar gyfer achlysuron arbennig a thalebau anrheg!
Stondin Hanesyddol
Stondin U2
💳 Taliadau â cherdyn
01792 458474
www.thechoiceisyoursswansea.co.uk/
[ngg_images source=”galleries” container_ids=”62″ display_type=”photocrati-nextgen_basic_thumbnails” override_thumbnail_settings=”0″ thumbnail_width=”100″ thumbnail_height=”75″ thumbnail_crop=”1″ images_per_page=”20″ number_of_columns=”0″ ajax_pagination=”0″ show_all_in_lightbox=”0″ use_imagebrowser_effect=”0″ show_slideshow_link=”0″ slideshow_link_text=”[Show as slideshow]” order_by=”sortorder” order_direction=”ASC” returns=”included” maximum_entity_count=”500″]