Mobile Menu

Monday - Saturday: 8:30 — 16:00, Sunday: Closed
  • Hafan
  • Stondinau’r Farchnad
    • Pobi a Melysion
      • Good News Swansea
      • T.C Jones Confectionery
      • Davies of Mumbles
      • Jan Evans Bakery
      • Arlene’s Sweetie Jar
      • Norfolk Bakery
    • Cigyddiaeth
      • Billy Upton
      • Hugh Phillips Gower Butchers
      • Simpsons
    • Cardiau, rhoddion a llyfrau
      • Warringtons
      • Christian Bookshop
      • Cim’s Creations
      • Capnoco
      • The Welsh Stall
      • Something Different
      • Card Collection
      • NB Books
    • Dillad, esgidiau a nwyddau lledr
      • Socks Up
      • Rock-A-Bye
      • Sian’s Fashions (Ladieswear)
      • Sian’s Fashions (Menswear)
      • Kandy’s Tailoring
      • Seema Fashions
      • Sew It Seams
      • Sew4Sure
      • The Baby Room
    • Delicatessen a bwydydd iach
      • Healthworld
      • DE Richards and Sons
      • Mair Harries Welsh Produce
      • Abrahams and Family
      • Country Quality Meats
      • Deli Cymreig
      • A.J.Meats
      • Brontosaurus
    • Offer a darnau sbâr trydanol
      • Console Action
      • Mike-O-Soft
      • Tom Whitehouse Ltd
      • Market Spares
      • The Phone Doctor
      • Quartztime
    • Pysgod a bwyd môr
      • Coakley-Green
      • Tuckers Fish
      • The Market Plaice
      • Cockle Rotunda: C.Watts
      • Cockle Rotunda: M.Swistun
    • Ffrwythau, llysiau a blodau
      • City Flowers
      • Get Fresh
      • Neil Evans
      • Nick Jones
      • The Choice is Yours
      • Plant More Plants
    • Y Cartref a Ffabrigau
      • Duttons Yarns
      • Bollywood Theme and Fabric
      • Gower Carpets
    • Gemwaith, colur a phersawrau o safon
      • The Kazbah
      • Hairlines
      • Alison Rose
      • Gold Reserve
      • Jemz
      • Lethbridge Handbags
      • The Powder Room
      • Don’s Jewellery Service
      • Forever Gold
      • Rani’s Brow & Eyelash Lounge
      • Ryan’s Beauty
    • Lleoedd i Fwyta
      • Cafe Janet
      • Country Kitchen
      • Donut Den
      • El Mercado
      • The Lunchbox
      • The Market Pantry
      • Greedy Fellas
      • Thai Taste
      • The Falafel Stall
      • Little Tokyo
    • Gwasanaethau a Chyflenwadau
      • Pets Paradise
      • SOS Shoe Repairs
      • One Vision
      • The Engraving Centre
      • Timpson
      • Taffys
      • Smiles Photo
      • Gower Retail
      • Angler’s Mate
  • Ymweld â ni
  • Bod yn fasnachwr
    • Masnachu achlysurol
    • Stondinau i’w gosod
  • Digwyddiadau
    • Marchnad Ffermwyr
    • Vegan Mini-Markets
  • Cymraeg
    • English
  • Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter

Swansea Market logo

Header Right

Monday - Saturday: 8:30 — 16:00, Sunday: Closed
  • Hafan
  • Stondinau’r Farchnad
    • Pobi a Melysion
      • Good News Swansea
      • T.C Jones Confectionery
      • Davies of Mumbles
      • Jan Evans Bakery
      • Arlene’s Sweetie Jar
      • Norfolk Bakery
    • Cigyddiaeth
      • Billy Upton
      • Hugh Phillips Gower Butchers
      • Simpsons
    • Cardiau, rhoddion a llyfrau
      • Warringtons
      • Christian Bookshop
      • Cim’s Creations
      • Capnoco
      • The Welsh Stall
      • Something Different
      • Card Collection
      • NB Books
    • Dillad, esgidiau a nwyddau lledr
      • Socks Up
      • Rock-A-Bye
      • Sian’s Fashions (Ladieswear)
      • Sian’s Fashions (Menswear)
      • Kandy’s Tailoring
      • Seema Fashions
      • Sew It Seams
      • Sew4Sure
      • The Baby Room
    • Delicatessen a bwydydd iach
      • Healthworld
      • DE Richards and Sons
      • Mair Harries Welsh Produce
      • Abrahams and Family
      • Country Quality Meats
      • Deli Cymreig
      • A.J.Meats
      • Brontosaurus
    • Offer a darnau sbâr trydanol
      • Console Action
      • Mike-O-Soft
      • Tom Whitehouse Ltd
      • Market Spares
      • The Phone Doctor
      • Quartztime
    • Pysgod a bwyd môr
      • Coakley-Green
      • Tuckers Fish
      • The Market Plaice
      • Cockle Rotunda: C.Watts
      • Cockle Rotunda: M.Swistun
    • Ffrwythau, llysiau a blodau
      • City Flowers
      • Get Fresh
      • Neil Evans
      • Nick Jones
      • The Choice is Yours
      • Plant More Plants
    • Y Cartref a Ffabrigau
      • Duttons Yarns
      • Bollywood Theme and Fabric
      • Gower Carpets
    • Gemwaith, colur a phersawrau o safon
      • The Kazbah
      • Hairlines
      • Alison Rose
      • Gold Reserve
      • Jemz
      • Lethbridge Handbags
      • The Powder Room
      • Don’s Jewellery Service
      • Forever Gold
      • Rani’s Brow & Eyelash Lounge
      • Ryan’s Beauty
    • Lleoedd i Fwyta
      • Cafe Janet
      • Country Kitchen
      • Donut Den
      • El Mercado
      • The Lunchbox
      • The Market Pantry
      • Greedy Fellas
      • Thai Taste
      • The Falafel Stall
      • Little Tokyo
    • Gwasanaethau a Chyflenwadau
      • Pets Paradise
      • SOS Shoe Repairs
      • One Vision
      • The Engraving Centre
      • Timpson
      • Taffys
      • Smiles Photo
      • Gower Retail
      • Angler’s Mate
  • Ymweld â ni
  • Bod yn fasnachwr
    • Masnachu achlysurol
    • Stondinau i’w gosod
  • Digwyddiadau
    • Marchnad Ffermwyr
    • Vegan Mini-Markets
  • Cymraeg
    • English
You are here: Home / Digwyddiadau

Digwyddiadau

Hanes Menywod yng Nghymru ar ffôn glyfar

Gellir darllen storïau diddorol yn ymwneud â ‘Hanes Menywod yng Nghymru’ ar ffonau symudol mewn mwy na 70 o leoliadau ledled Cymru.

Mae codau QR, sydd i’w gweld ym mhob lleoliad, yn cysylltu â thudalen ar wefan HistoryPoints sy’n egluro cysylltiad y man hwnnw ag unigolyn, digwyddiad neu weithle.

Mae bathodyn ‘Hanes Menywod yng Nghymru’ ar bob un o’r tudalennau. Gall y darllenydd glicio ar y bathodyn i ddarganfod y lleoliadau a’r storïau eraill.

Darperir y wybodaeth gan brosiect HistoryPoints a nifer o gyfranwyr. Mae ar gael am ddim, ac eithrio unrhyw gostau data yng nghontract symudol y darllenydd. Gellir ei weld hefyd ar gyfrifiaduron cartref ar wefan HistoryPoints.org.

Mae Lisa Wells, Rheolwr Canol Dinas Abertawe, yn un o lawer sydd wedi helpu i ddarparu codau QR HistoryPoints a gwybodaeth yn ardal Abertawe. Meddai: “Mae Cyngor Abertawe yn falch o gefnogi’r fenter hon, gan dynnu sylw at gyfraniad menywod at ein hanes lleol. Mae’n wych y gall siopwyr ac ymwelwyr nawr ddarganfod storïau rhai o’r merched hyn ar eu ffonau symudol.

“Mae gan Farchnad Abertawe, er enghraifft, hanes hir a chyfoethog ac y mae menywod cryf wedi bod yn rhan sylweddol ohono erioed. Mae’r codau QR wrth y mynedfeydd ac yn enwedig y rhai ar y stondinau cocos yn adrodd stori’r menywod a oedd yn casglu cocos ar draethau Penclawdd a cherdded yr holl ffordd i’r Farchnad i werthu’r cregynbysgod wedi’u coginio’n ffres.” Gall siopwyr hefyd fwynhau lluniau hanesyddol o’r merched cocos hyn mewn fflanenau traddodiadol Cymreig ar eu ffonau symudol.

 


Mae’r ysgol wedi gorffen am yr haf:  dyma 6 pheth i’w gwneud ym Marchnad Abertawe

  1. Darganfod hobi newydd!

Rydyn ni’n gwybod, mae’n anodd cadw’r plant i ffwrdd o’r sgrîn, ond ffordd wych o’u cadw’n brysur a chadw eu meddyliau’n effro yr haf hwn yw dysgu hobi newydd! I’r rheiny sy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored, gallech fynd i stondin Angler’s Mate a rhoi cynnig ar bysgota neu ddysgu am arddio yn Plant More Plants! Gallai pobl mwy artistig fynd i Dutton Yarns neu Bollywood Theme and Fabric  i gael ysbrydoliaeth am brosiectau creadigol y gallwch roi cynnig arnynt gartref!

  1. Mynd i un o’n digwyddiadau gwych!

Bydd y farchnad feganaidd yn cyrraedd ddydd Sadwrn 4 Awst am ddiwrnod yn unig. Bydd bwydydd feganaidd blasus, cosmetigau a mwy ar werth yma. Cynhelir ein Marchnad Ffermwyr fisol ar 10 ac 11 Awst, lle bydd amrywiaeth cyffrous ac amrywiol o fasnachwyr lleol yn gwerthu eu cynnyrch.

  1. Blasu bwydydd o bedwar ban byd!

Does dim angen gwario ffortiwn i fynd â’r plant dramor yr haf hwn, gadewch i’n bwytai gwych fynd â’ch blasbwyntiau i bedwar ban y byd. Mae’r daith goginiol yn cynnwys bwyd Japaneaidd moethus yn Little Tokyo, danteithion cartref, iach o’r Dwyrain Canol yn The Falafel Stall, brechdanau ‘hoagie’ Americanaidd yn The Market Pantry, blasau sawrus Gwlad Thai yn Thai Taste a blasau o bedwar ban byd yn y Deli Cymreig! Ar ôl yr holl deithio yr haf hwn, efallai bydd angen rhywbeth mwy traddodiadol arnoch chi fel cinio dydd Sul o The Lunchbox neu frecwast Cymreig llawn o’r Country Kitchen. Mae cynifer o gyrchfannau blasus ar gael!

  1. Archwilio!

Mae dros 80 o stondinau yn y farchnad! Felly, crwydrwch o gwmpas y lle – pwy a ŵyr beth gallech chi ei ddarganfod!

  1. Paratowch y plant ar gyfer y tymor newydd

Mae gan Farchnad Abertawe bopeth y mae ei angen arnynt i ddechrau’r tymor mewn steil! Os oes angen torri gwallt, ewch i Taffy’s, gallwch brynu sleidiau a bandiau gwallt ffasiynol yn The Powder Room, bag ysgol newydd o Lethbridge Handbags a deunydd ysgrifennu yn N.B Books.

  1. Tritiwch eich hun

Rydych wedi cael haf prysur yn difyrru’r plant, felly beth am roi trît i chi’ch hun? Gallech goginio pryd blasus gyda stecen o Vaughan’s neu bysgodyn y dydd o The Market Plaice, ewch i Rani’s Brow and Eyelash Lounge am driniaeth harddwch, prynwch ddarn o emwaith neu oriawr newydd yn Don’s Jewellery, neu ymlaciwch gyda phaned a theisen yn The Donut Den.


Bydd y Farchnad Ffermwyr yn cynnwys pob math o gynhyrchion a gynhyrchwyd yn lleol megis nwyddau pob, danteithion melys, cyffeithiau a siytnis cartref, cig a charcuterie, caws, cynhyrchion llysieuol a feganaidd unigryw, alcohol a fragwyd yn lleol, gofal croen, celf, ffotograffiaeth a mwy. Byddwch hefyd yn gallu parhau i siopa yn eich hoff stondinau!


 

Mis Hanes Menywod

Ym mis Mawrth rydym yn dathlu Mis Hanes Menywod, a chyda 2018 yn nodi 100 mlynedd ers sefydlu’r Suffragettes felly rydym yn trafod masnachwyr benywaidd y farchnad. 

“Rwy’n dod o deulu sy’n cynnwys nifer o fenywod busnes ac ni fyddent byth yn bodloni ar unrhyw beth. Roedd fy hen fam-gu’n berchen ar D.E Powell, cigydd yn y farchnad hon! Tair cenhedlaeth yn ddiweddarach, rwyf bellach yn parhau â’r traddodiad gyda’m stondin fy hun, ond mewn maes gwahanol iawn!” – Charlotte, Brontosaurus 

“Er mwyn gwneud i fusnes weithio, rhaid i chi ddewis rhywbeth rydych yn frwdfrydig drosto” – Rekha Rani, Rani’s Brow & Eyelash Lounge 

“Rwyf wedi bod yn y farchnad ar hyd fy mywyd, gan mai stondin y teulu yw hon. Rwy’n dwlu ar y farchnad, rydych yn cwrdd â phobl o bob math o gefndir yma ac mae yna ymdeimlad o deulu rhwng y masnachwyr, gyda chymaint o gellwair a hwyl. Rhoddodd fy nhad-cu ofal am y busnes i fi 10 mlynedd yn ôl ac ni all rhai pobl gredu bod menyw yn cynnal stondin nwyddau metel! Ond mae’r rhan fwyaf o’r cwsmeriaid yn ei groesawu ac mae gennyf dîm gwych wrth fy ochr” – Nicola, Tom Whitehouse Ltd

“Yn y gorffennol, bues i’n gweithio am ormod o amser mewn diwydiant gyda gormod o ddynion lle teimlais i nad oeddwn i’n cael fy ngwerthfawrogi, felly roedd fy hyder a’m hunanwerth yn isel iawn.

Penderfynais i fentro ar fy mhen fy hun ac agorais i Jems ym Marchnad Abertawe, yn gwerthu gemwaith, ategolion a dillad gwau Eidalaidd. Chwe blynedd yn ddiweddarach ac rydw i’n mwynhau o hyd! Mae pobl onest a hapus o’m cwmpas bob dydd. Rydw i bellach yn edrych ymlaen at ddod i’r gwaith a chael profiad newydd hyfryd bob dydd. Byddwn i’n annog unrhyw fenywod i fod yn ddewr a gwneud newidiadau os ydynt yn anhapus yn y gweithle. Rydyn ni’n treulio 8 awr y dydd yn y gwaith ac mae pawb yn haeddu bod yn hapus. Rydyn ni i gyd yn werth y byd!” – Julie, Jemz 

Gan ei bod hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod rydym wedi dod â’n masnachwyr benywaidd ynghyd! Mae crefftwyr medrus, pen-cogyddion a phobwragedd, prydferthwyr, gwniadyddesau a mentrwyr arloesol i gyd wedi gadael eu marc ar ein marchnad.

 

International Women's Day

International Women's Day
Image 1 of 4

 


Dydd Gŵyl Dewi 2018 

Galwch heibio Marchnad Abertawe’r penwythnos hwn blaswch ddanteithion Cymreig – pice ar y maen, cocos a bara lawr, dewch o hyd i lawer o grefftau cartref a chewch brint 8×6 AM DDIM o Smiles ddydd Gwner a dydd Sadwrn rhwng 10am a 3pm!

 

 

 

 

 


Dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi ym Marchnad Abertawe – dydd Sadwrn 27 ChwefrorWelshgirl

Ble sy’n well i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi nag ym marchnad dan do fwyaf Cymru? Rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn 27 Chwefror, bydd ein ffotograffydd proffesiynol o Smiles Studio yn cynnig ffotograffau 8 x 6 wedi’u gosod AM DDIM i’r holl blant mewn gwisg Gymreig.

Bydd Cookibods hefyd wrth law i wneud byrgyrs a selsig Morgannwg blasus a bydd Artibods yn helpu’r plant i fod yn greadigol gyda chelf a chrefft â thema Gymreig.

Pan fyddwch yma, cofiwch godi bag o bice ar y maen neu fara brith blasus gan un o’n pobwyr penigamp. Hefyd, gwelwch ddetholiad hyfryd o gawsiau Cymreig a danteithion ffermdy i demtio’ch blasbwyntiau. Ac, wrth gwrs, pa ffordd well o ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi na chyda chocos a bara lawr ffres o’n stondinau cocos yng nghanol y farchnad?


Dwlu ar eich Marchnad Leol

Yn ddiweddar, cymerom ran yn yr ymgyrch genedlaethol Dwlu ar eich Marchnad Leol a oedd yn cynnwys llawer o ddigwyddiadau a dathliadau gwych.

Roedd masnachwyr a chwsmeriaid Marchnad Abertawe hefyd wedi rhannu rhai o’r rhesymau pam maent yn dwlu ar eu marchnad leol â ni.

Edrychwch arnynt!

SHOPPER-1-NIC

http://www.swanseaindoormarket.co.uk/wp-content/uploads/2014/06/WLSM-SHOPPER-1-NIC.mp3

SHOPPER-1-HELEN

http://www.swanseaindoormarket.co.uk/wp-content/uploads/2014/06/WLSW-SHOPPER-1-HELEN.mp3

SHOPPER-2-ANNA

http://www.swanseaindoormarket.co.uk/wp-content/uploads/2014/06/WLSW-SHOPPER-2-ANNA.mp3

TRADER-1-CAROL-WATTS

http://www.swanseaindoormarket.co.uk/wp-content/uploads/2014/06/WLSM-TRADER-1-CAROL-WATTS.mp3

TRADER-1-UBU

http://www.swanseaindoormarket.co.uk/wp-content/uploads/2014/06/WLSM-TRADER-1-UBU.mp3

TRADER-2-PAUL-MARKET-PLAICE

http://www.swanseaindoormarket.co.uk/wp-content/uploads/2014/06/WLSM-TRADER-2-PAUL-MARKET-PLAICE.mp3

TRADER-3-UBU

http://www.swanseaindoormarket.co.uk/wp-content/uploads/2014/06/WLSM-TRADER-3-UBU.mp3

TRADER-4-CAPERS

http://www.swanseaindoormarket.co.uk/wp-content/uploads/2014/06/WLSW-TRADER-4-CAPERS.mp3

TRADER-5-UPTONS

http://www.swanseaindoormarket.co.uk/wp-content/uploads/2014/06/WLSW-TRADER-5-UPTONS.mp3

TRADER-6-GREG

http://www.swanseaindoormarket.co.uk/wp-content/uploads/2014/06/WLSW-TRADER-6-GREG.mp3

TRADER-7-VAUGHANS-AND-CHOICE

http://www.swanseaindoormarket.co.uk/wp-content/uploads/2014/06/WLSW-TRADER-7-VAUGHANS-AND-CHOICE.mp3

TRADER-8-WHITEHOUSE

http://www.swanseaindoormarket.co.uk/wp-content/uploads/2014/06/WLSW-TRADER-8-WHITEHOUSE.mp3

For more events in Swansea visit – What’s On in Swansea

Primary Sidebar

Map of Swansea Market

Stall layout

Location of Swansea Market

Return to top of page

Copyright © 2021 · Swansea Indoor Market