Fyddwch chi ddim am golli Arswyd yng Ngardd y Farchnad! Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 25 Hydref am ddiwrnod yn llawn castiau a thrîts.
11am – 4pm Portreadau Calan Gaeaf hunllefus gyda Little Things Photography
Fe fydd y stiwdio dros dro yng nghoridor Whitewalls, ychydig heibio i Brontosaurus.
11am-3pm Paentio wynebau erchyll gyda Chase the Stars!
Yng Ngardd y Farchnad
11am – 1pm Addurno cwcis cythreulig gyda Cookstars!
Yng Ngardd y Farchnad
11am-12pm Kelly & Debbie!
Bydd digon o gastiau a thrîts i’w cael pan fydd Kelly & Debbie yn ymddangos ar y llwyfan gyda’u castiau arswydus fel rhan o Arswyd yng Ngardd y Farchnad!
12pm-3pm Llwybr Cast ynteu Ceiniog
Mae 8 o bwmpenni wedi cael eu cuddio mewn stondinau o amgylch Marchnad Abertawe. Dilynwch y map i geisio dod o hyd i’r stondinau, ysgrifennwch enwau’r stondinau yn y blychau isod a dychwelwch i Ardd y Farchnad am Gast ynteu Ceiniog!
12:30pm – 1pm, 2pm-2:30pm,3:30pm-4pm Louby Lou
Dewch i fwynhau straeon bwganllyd yng Ngardd y Farchnad gyda Louby Lou!
Bydd gwesteion arswydus yn ymuno â niMickey a Minnie a’r angenfilod Mike a Sulley!
Ariennir y digwyddiad hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.