Wedi’i sefydlu ym 1878, mae’r siop gigyddion hon wedi bod yn nwylo pedair cenhedlaeth ac mae hi wedi gweld tair fersiwn o Farchnad Abertawe! Maent yn cael eu canmol am eu gwasanaeth o safon, eu harbenigedd a’u hamrywiaeth mawr o gynnyrch. Mae siop gigyddion Hugh Phillips yn falch o’u statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) sy’n profi pa mor lleol yw eu cynnyrch, sy’n dod o ffermydd ym mhenrhyn Gŵyr a Sir Gâr. Mae cig oen morfa heli’r siop gigyddion hon yn boblogaidd iawn, ond mae amrywiaeth ardderchog hefyd o gig eidion, selsig traddodiadol, bacwn hallt a chigoedd wedi’u marinadu.
Stondin Hanesyddol
Stondin 55
01792 455100
💳 Taliadau â cherdyn