Gyda’i hanes hir a’i amrywiaeth o stondinau a bwytai unigryw sy’n cynnig popeth o nwyddau Cymreig traddodiadol i eitemau steilus a chyfoes, mae Marchnad Abertawe’n gyrchfan i dwristiaid yn Abertawe na ddylid ei golli.
Fel marchnad dan do fwyaf Cymru, dyma’r arhosfan perffaith i grwpiau mawr beth bynnag fo’r tywydd! O dan y to cromen gwydr eiconig, un o uchafbwyntiau nenlinell Abertawe, mae pair o gymeriad diwylliannol Abertawe yn aros amdanoch. Daw’r presennol a’r gorffennol ynghyd gan ffurfio marchnad fywiog Abertawe.
I gael mwy o wybodaeth gyffredinol am deithio ar goetsis yn Abertawe, ffoniwch Ddesg Gwyliau Grŵp Abertawe 01792 635208.
5 rheswm dros ymweld ag Abertawe
Mae canol dinas Abertawe dafliad carreg o rai o draethau Baner Las gorau’r DU. Gyda 32 o filltiroedd o forlin a mwy na 50 o draethau a childraethau ag enwau, mae traeth ar gyfer pob wythnos y flwyddyn!
Nid yn unig yr amgylchynir Abertawe gan olygfeydd arfordirol trawiadol, ond mae 5 parc a gardd Baner Werdd arobryn ar garreg drws canol y ddinas.
Mae 2 amgueddfa wych yng nghanol y ddinas, amgueddfa hynaf Cymru sef Amgueddfa Abertawe, a’i chymydog, amgueddfa fwyaf newydd Abertawe sef Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Mae bwytai ardderchog ac economi gyda’r hwyr a nos ffyniannus wedi arwain at Abertawe’n cael ei hachredu gan y Faner Borffor nodedig, a roddir i ddinasoedd sydd wedi cael eu cydnabod am eu bywyd nos diogel ac amrywiol. Abertawe yw’r unig ddinas yng Nghymru i dderbyn yr anrhydedd hwn.
Mae dros 230 o siopau, caffis, bariau a bwytai i’w darganfod yn ninas fywiog Abertawe, dinas y glannau pennaf Cymru.