Mae Marchnad Abertawe wedi’i chydnabod fel y “Farchnad Dan Do Fawr Orau” yng Ngwobrau Marchnadoedd Prydain Fawr.
Trefnir y gwobrau nodedig hyn gan NABMA (Cymdeithas Genedlaethol Awdurdodau Marchnadoedd Prydain), y sefydliad marchnadoedd mwyaf blaenllaw yn y wlad.
Roedd y panel beirniadu wedi cymeradwyo’r mentrau datblygu yr ymgymerwyd â hwy ym Marchnad Abertawe, yn enwedig o ran cyfleoedd i ddechrau busnes newydd, marchnata a hyrwyddo a’r cysylltiadau cryf sydd gennym â grwpiau cymunedol. Roedd hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd diwylliannol y farchnad, angerdd ac ymroddiad y masnachwyr a’r hoffter sydd gan gwsmeriaid tuag ati.
Mae hyn yn gyflawniad gwych i bawb sydd wedi bod yn rhan o wneud Marchnad Abertawe y “Farchnad Dan Do Fawr Orau” a rhaid diolch hefyd i’r cwsmeriaid sy’n parhau i sicrhau bod y farchnad yn ffynnu. Parhewch i’n cefnogi a lledaenu’r gair……….. Marchnad Abertawe yw “Marchnad Dan Do Fawr Orau” Prydain!