Croeso i Farchnad Abertawe

Mae Marchnad Abertawe yn farchnad arobryn a’r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru. Mae’n cynnal canrif o draddodiad o fasnachu marchnad yng nghanol y ddinas ac mae’n cynnig profiad siopa unigryw i dwristiaid a phreswylwyr, 6 diwrnod yr wythnos.

Mae dros 100 stondin gydag amrywiaeth eang o gynnyrch lleol, ffres a nwyddau traddodiadol Cymreig, a byddwch hefyd yn dod o hyd i siopau cigyddion a gwerthwyr pysgod arbenigol, ac mae llawer ohonynt wedi bod yn gweini pobl Abertawe ers cenedlaethau.

Byddwch hefyd yn dod o hyd i stondinau sy’n gwerthu anrhegion personol, gemwaith ac ategolion hardd, cosmetigau, nwyddau lledr, dillad plant ar gyfer achlysuron arbennig a llawer mwy. Yn ogystal, gallwch gael hoe mewn un o’n caffis a siopau coffi.

This post is also available in: English