Mae ardal y byrddau masnachu yng nghanol y farchnad dan do yn cynnig man anffurfiol a rhad – sy’n ddelfrydol i roi cynnig ar syniad busnes newydd.
Gallwch archebu bwrdd tresl 6tr x 2tr am ddiwrnod neu wythnos. Cliciwch ar y ddolen isod i lawrlwytho ffurflen gais a rhestr brisiau. Ffurflen gais masnachu achlysurol
Tîm Rheoli Canol y Ddinas fydd yn dyrannu lleoedd dros dro ac yn gwerthuso a yw’r cais er budd y farchnad a’r awdurdod lleol ac a oes gan yr ardal fasnachu y cyfleusterau i gefnogi’r busnes.